Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/535

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haner awr, fwy nag a argyhoeddodd ei Feistr yn oes. Yr hyn sydd yn eglur ddangos i fy meddwl i, fod yr Ysbryd Glan o'i ras yn gwneuthur rhywbeth yn rhagor ar rai nag eraill.

3. Y mae priodoli y dechreuol achos o ddychweliad pechaduriad, i rywbeth heblaw i Ysbryd Duw, yn gosod y mater mewn tywyllwch a gwrthddywediadau. Nid ydyw dywedyd "fod pawb wedi cael talent o ras," neu fod yr Ysbryd yn ymryson â phawb fel eu gilydd, ond fod rhai yn defnyddio hyn yn well nag eraill, yn gwella dim ar y mater, a chaniatau i hyny fod. Y gofyniad yw, Beth oedd yr achos i rai ddefnyddio eu talent neu ymrysoniad yr Ysbryd ar eu meddwl mwy nag eraill? Os dywedir mai dewis y mae rhai, pan nad ydyw eraill a gafodd yr un fantais yn dewis, y mae hyny yn wir; ond y gofyniad drachefn yw, Beth a fu yr achos iddynt ddewis felly mwy nag eraill? Pa beth bynag oedd yr achos, dyna ffynonell wreiddiol eu duwioldeb, ac a ddylai gael yr holl glod. Mae yn ymddangos i mi fod yn rhaid mai un o'r pethau canlynol oedd yr achos i benderfynu y dewisiad.

1. Fod y naill ddyn yn well wrth natur na'r llall, ac felly yn rhoi lle yn rhwyddach i ymrysoniad yr Ysbryd ar ei feddwl, os felly yr achos fod rhai yn dduwiolach nag eraill ydyw, nad yw eu natur ddim wedi dirywio mor ddwfn drwy y cwymp; ond y mae y Beibl yn eglur yn dangos fod pawb wedi myned i'r un gradd o ddirywiad, "A megys deilen y syrthiasom ni oll," Esa. Ixiv. 6. Gwel Rhuf. iii. 9—12. Hefyd os cyfansoddiad natur rhai sydd dynerach nag eraill, a thrwy hyny, eu bod yn defnyddio ymrysoniadau yr ysbryd yn well nag eraill, nid yw y lleill i'w beio, oblegid amlwg yw nas gall neb wrth gyfansoddiad ei natur ynddo ei hun.

2. Os dywedir mai rhyw amgylchiad mewn