Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/534

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hyn y mae Duw yn ei ras yn ei wneud; a'r olaf yn dangos yr hyn sydd ddyledus ar ddyn i'w wneuthur.

I. YMDRECHAF BROFI MAI DUW O'I RYDD-RAS SYDD YN YMOFYN YN GYNTAF AR OL PECHADUR; NEU, YR ANGENRHEIDRWYDD ANHEBGOROL AM NEILLDUOL WAITH YR YSBRYD AR GALON PECHADUR ER EI DDYCHWELYD AT DDUW.

1. Y mae cyflwr andwyol dyn yn profi hyn. Mae yn amlwg oddiwrth air Duw a phrofiad, fod dyn wedi myned mor ddwfn i bechod a thrueni, ac wedi ymgynefino i'r fath raddau a gwneuthur drwg, fel nas gall wneuthur da. Y mae yn dywyll, ïe, yn dywyllwch, ac nis gall tywyllwch weithredu arno ei hun i gynyrchu goleuni; y mae yn farw, ac nis gall marwoldeb weithredu bywyd; y mae syniad y cnawd yn elyniaeth yn erbyn Duw, ac nis gall gelyniaeth greu cariad.

2. Y mae y moddion goreu a mwyaf tebygol o lwyddo wedi methu filoedd o weithiau, pan y byddai moddion gwaelach yn llwyddo. Mae hyn yn profi mai llaw anweledig ysbryd Duw, ac nid y moddion allanol, sydd yn gwneud y gwaith. Gallesid meddwl y buasai y gogoniant a'r mawredd a amlygodd y Jehofah ar Sinai wrth gyhoeddi y ddeddf, yn effeithio cymaint ar feddwl y bobl, fel na buasent byth yn ei throseddu. Ond methodd hyny—methodd rhuad y taranau a dychrynllyd oleuni y mellt atal y bobl i eilunaddoliaeth; ïe, er i Dduw ei hun gyhoeddi, "Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i."

Yn yr un modd, yr oedd pregethau efengylaidd, taer, gwresog, hyawdl, a ffyddlawn, Esaiah, Jeremiah, a Phaul; ïe, gweinidogaeth Iesu Grist ei hun yn aml yn aneffeithiol. Ond darfu i bysgotwr Môr Galilea (Petr) argyhoeddi mewn oddeutu