Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/533

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â'i enw, ac â'i ogoniant, ac â'i fawl, y mae efe yn dywedyd felly, a thrachefn, pe buasai ein gwasan—aeth ni o ryw elw i Dduw, fe fuasai yn deilwng i ni gael rhan o'r clod yn gyfatebol i hyny; ond gan mai "O hono ef a thrwyddo ef y mae pob peth," (Rhuf. xi. 36); y mae yn rhaid mae iddo ef yn unig y mae yr holl ogoniant a'r mawl yn gyfiawn, ac yn deilwng yn dragywydd. Amen.

"Pe ba'i i mi dreulio'r creigiau,
Wrth i'm roddi ngliniau i lawr;
Gwneud afonydd o fy nagrau,
Llenwi hefyd foroedd mawr.
Rhanu trysor y mwngloddiau
Rhwng tylodion yn mhob man,
Anhaeddianol fyddwn wed'yn,
Byth i gael fy nghodi i'r lan.'


PREGETH V.

"CYSYLLTIAD GRAS A DYLEDSWYDD."

"Eithr y mae Esaias yn ymhyfhau ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf," Rhuf. x. 20.

Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi," Mat. vii. 7.

GELLID meddwl ar yr olwg gyntaf, fod anghysondeb rhwng yr adnodau hyn; ond nis gall fod un ran o air Duw yn gwrthddywedyd y rhan arall. Y mae yn cael ei alw yn air, fel pe na byddai ond un gair i arwyddo ei gysondeb; felly y mae y ddwy adnod hyn yn eithaf unol a chyson—y gyntaf yn gosod allan