Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/532

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan nad yw ein gwasanaeth o un elw iddo, mae yn rhaid mai egwyddor o gyfiawnder yn unig sydd yn ei gymhelli ofyn ein gwasanaeth—eisieu ymddwyn yn gyfiawn tuag atom ni, a thuag ato ei hun sydd ar Dduw, ac nid eisieu elwa oddi arnom ni, pan y mae yn gofyn ein gwasanaeth.

7. GWRTHDDADL ARALL.

Onid yw yr athrawiaeth uchod yn gwrthwynebu i Dduw wneuthur ei ogoniant ei hunan yn ddyben penaf ei holl waith, ac yn erbyn y mynych ddywed—iadau hyny; "Er mwyn fy ngogoniant," ac "Er mwyn fy mawl," &c. Mae yn yr wrthddadl hon ddau beth i'w hystyried.

(1.) Mai nid diffyg gogoniant a dedwyddwch yn Nuw sydd yn peri iddo weithredu, a chyfranu rhoddion fel y mae; ond dangos y maent fod anfeidrol lawnder yn Nuw. Nid profi diffyg yn y ffynnon y mae y ffrydiau sydd yn dyfod o honi, ond profi ei chyflawnder y maent; felly nid diffyg yn y ffynnon, ond ei chyflawnder sydd yn peri iddi fwrw allan ei ffrydiau; felly nid diffyg yn y Jehofah, ond anfeidrol gyflawnder o ddedwyddwch a gogoniant sydd yn peri iddo weithredu.

(2.) Mai nid dyben hunanol sydd gan Dduw wrth wneuthur ei ogoniant yn ddyben penaf ei holl weithredoedd; ond y mae yn rhaid iddo wneuthur felly os ymddwyn a wna at fodau yn ol eu gwerth. Y mae yn rhaid iddo ymddwyn ato ei hun fel y mwyaf a'r gwerthfawrocaf o bawb, ac felly wneuthur ei ogoniant ei hun a'i fawl yn ddyben penaf ei holl weithredoedd. Pan y mae Duw yn dywedyd—"Er mwyn fy enw—Er mwyn fy ngogoniant—Er mwyn fy mawl;" nid er mwyn cael yr hyn a fyddwn ni yn ei alw yn hunan-glod, y mae Duw yn dywedyd hyn, ond er mwyn gwneuthur cyfiawnder