Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/531

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a wnaeth Duw i ni heb ddysgwyl byth dâl genym am yr hyn a wnaeth, dyma ras y mae yn deilwng ei alw felly byth.

4. Ni a welwn yr angenrheidrwydd sydd arnom i fod yn ostyngedig a hunanymwadol am yr hyn sydd genym ac ydym, yn lle ymffrostio a meddwl ein bod yn gwneuthur Duw yn ddyledwr i ni am ein rhinweddau. Pe y byddem ni yn gweled yn gywir, meddyliem, pa fwyaf ein rhinweddau, mai mwyaf ein dyled i Dduw am danynt; ac yn lle dywedyd bod Duw yn ddyledus i ni am ein gwedd—iau, dywedem fod arnom ni ddyled i Dduw am gael gweddio; ac yn lle dywedyd fod Duw yn ddyledus i ni am ein duwioldeb, a'n sancteiddrwydd, dywedem ein bod ni yn ddyledus i Dduw am gael bod felly; a pha fwyaf fyddom felly, mwyaf fydd ein dyled i Dduw am y fraint.

5. Ni a welwn natur gwobr y trigolion yn y nefoedd; mai nid talu yn ol eu haeddiant y mae Duw, ond gwobr o ras yw; ffrwyth ei ras yw eu holl rinweddau, a'u gweithredoedd da; ac wrth eu gwobrwyo, y mae efe yn gwobrwyo ei waith ei hun a'i ras ei hun; un llaw yn gwobrwyo yr hyn a wnaeth y llaw arall, "Canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni," Esa. xxvi. 12.

6. GWRTHDDADL.

Os nad yw ein gwasanaeth ni o un lles i Dduw, paham y mae Duw yn ein bygwth ni mor llym am esgeuluso ein dyledswydd? I hyn atebaf; nid am fod ar Dduw eisieu un hunan-elw oddiwrth ein gwasanaeth ni, ond o herwydd mai peth anfeidrol uniawn a chyfiawn ydyw i ni wasanaethu a gogoneddu Duw. Pe buasai ein gwasanaeth ni o ryw elw i Dduw, gallasem amheu a oedd un egwyddor o hunan yn ei gymhell ef i ofyn ein gwasanaeth, ond