Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/530

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2. Mae bod Duw heb fod yn ddyledwr i neb, eithr bod ganddo hawl i roddi i'r neb y myno, yn athrawiaeth dra chysurus i bechadur heb ganddo ddim ond pechod ac annheilyngdod; oblegid pe na byddai Duw yn rhoddi i neb ond yn ol eu teilyng—dod a'u haeddiant, nis gallai neb o honom ni ddysgwyl dim byth oddiar law Duw mwy na'r angylion na chadwasant eu dechreuad, ond gan mai trugarhau y mae wrth y neb y myno, pwy a wyr na thrugarha efe wrthym ninau. Mae arnaf fi rwymau annrhaethol i ddywedyd yn dda am Ben—arglwyddiaeth rasol, oblegid nid oes genyf ond hi am fywyd fy enaid. Buasai fy nghyflwr mor anobeithiol a phe buaswn yn uffern eisioes, oni buasai fod Penarglwyddiaeth gras yn trugarhau wrth y neb y myno. Pwy na ddywedai yn dda am dani? Oblegid ni wnaeth ddrwg i neb erioed, y mae yn gwneud daioni i bawb, nid yw yn damnio neb, ond y mae yn cadw miloedd; o'r ffynnon rasol yma, y mae pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith yn deilliaw; ac nid oes dim ond da yn unig yn dyfod o'r ffynon hon; am hyny, yn lle grwgnach a beio ar Dduw am drugarhau wrth y neb y myno, ymostwng yn edifeiriol a ddylem wrth ei draed, gan ddywedyd, os cedwi fi yn fyw, trugaredd i gyd a fydd hyny; os fy namnio a wnei, mi a gaf yr hyn yr wyf yn ei gyfiawn haeddu.

3. Ni a welwn natur rhad ras, pan y byddom ni yn rhoddi elusen i rywun; mae natur y berthynas sydd rhyngom ni a gwrthddrych ein helusen, yn ein rhwymo i wneuthur felly. Ond nid oes dim rhwymau ar Dduw i wneuthur dim o'r pethau mawr ag y mae yn eu gwneuthur i ni.

Pan y byddo dynion yn gwneuthur rhyw gymwynas, mae yn hawdd ganddynt ddysgwyl cael eu talu mewn rhyw fodd neu ddull; ond O! y pethau mawrion