Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/529

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae fy holl hyfrydwch," Salm xvi. 2—3. Mae ein dedwyddwch a'n gogoniant ni yn ymddibynu ar iawn wasanaethu Duw; ond nid yw dedwyddwch Duw yn ymddibynu dim ar ein gwasanaeth ni; a chan mai ni ein hunain, sydd yn cael yr elw oddi wrth ein gwasanaeth, ac nid Duw, ni all fod dyled ar Dduw i dalu i ni am elwa i ni ein hunain. Pe byddai ein gwaith yn dwyn rhyw elw i Dduw, fe fyddai yn ddyledus ar Dduw, i dalu i ni am ein gwaith.

7. Mae ein dyledswyddau yn llawn o anmherffeithrwydd a phechod; ïe, yr ydym ni wedi pechu digon i'n damnio byth, yn y ddyledswydd oreu a wnaethom erioed, pe buasai Duw yn craffu yn fanwl ar anwiredd, oblegid "Yr ydym ni oll megys peth aflan, ac megys bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megys deilen y syrthiasom ni oll; a'n hanwireddau, megys gwynt a'n dug ni ymaith,' Esa. Ixiv. 6. Felly mae ein dyledswyddau goreu, a'n gwaith, yn anghymeradwy gyda Duw; ond drwy aberth Crist a'i eiriolaeth, yr hwn sydd yn sefyll wrth yr allor aur, a chanddo arogldarth lawer fel yr offrymai ef gyda gweddiau yr holl saint.

III. ODDI WRTH YR ATHRAWIAETH, GWELWN:—

1. Os nad yw Duw yn ddyledwr i neb, fod ganddo hawl i fod yn Benarglwydd grasol i roddi i'r neb y myno, a'r peth y myno, heb wneuthur anghyfiawnder na cham â neb; canys y mae yn gyfreithlon iddo i wneuthur a fyno a'i eiddo ei hun, Mat. xx. 15; "A oes anghyfiawnder gyda Duw? na ato Duw, canys y mae yn dywedyd wrth Moses, mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf," Rhuf. ix. 14, 15, "Felly gan hyny y neb y myno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y myno y mae efe yn ei galedu," adn. 18.