Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/528

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond y mae y canghenau yn ddyledus i'r gwreiddyn: felly nis gellir gwneuthur neb yn ddyledus â'i eiddo ei hun. Pa dduwiolaf y byddom, a pha oreu y byddo ein hymddygiadau; yn lle gwneuthur Duw yn ddyledus i ni, mwyaf oll yw ein dyled ni i Dduw am y fraint o gael bod felly.

5. Pa beth bynag yr ydym yn ei wneuthur, nid ydym yn gwneuthur dim ond yr hyn sydd ddyledus arnom ei wneuthur yn ol natur pethau. Wrth "natur pethau" y byddaf yn deall yr hyn yw Duw, a'r hyn yw dyn, a'r hyn yw y naill ddyn i'r llall. Nid yw plentyn yn haeddu cyflog am anrhydeddu ei dad a'i fam, oblegid nid yw yn gwneuthur dim ond yr hyn sydd ddyledus arno yn ol natur y berthynas sydd rhyngddo a'i rieni; ac nis gall y gwr ddysgwyl cyflog am garu y wraig, na'r wraig am barchu y gwr, oblegid nad ydynt yn gwneuthur ond yr hyn sydd ddyledus arnynt yn ol natur pethau. Felly, nid yw ein gwasanaeth i Dduw yn ei osod dan rwymau i dalu cyflog i ni am ein gwaith, oblegid nid ydym yn gwneuthur ond yr hyn sydd ddyledus arnom yn ol natur y berthynas sydd rhyngom ag ef, fel ei greaduriaid, a pha beth bynag y mae Duw yn ei addaw i ni am ein gwaith, gwobr o ras ydyw, ac nid o ddyled, "Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym; oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom," Luc xvii. 10.

6. Os nad yw ein gwasanaeth crefyddol o ddim lles nac elw i Dduw, mae yn rhaid gan hyny mai elw a lles i ni ein hunain ac eraill ydyw, megis y dywed Solomon, "Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun," Diar. ix. 12. Ac y mae y Salmydd yn dywedyd, "Fy nâ nid yw ddim i ti, ond i'r saint sydd ar y ddaear, a'r rhai rhagorol, yn y rhai