Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/527

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a'i lleda fel pabell i drigo ynddi," Esa. xl. 12, 15, 17, 22. Os yw Duw y fath fod a hyn, mae yn amlwg na all ein gwasanaeth gwael ac anmherffaith ni ddim ei wneud ef yn ddyledwr i ni.

4. Yr ydym ni a'r oll a feddwn yn eiddo Duw, am hyny nis gallwn wneud Duw yn ddyledwr i ni â'i eiddo ei hun. Mae Paul yn gofyn mewn dull buddugoliaethus, "Pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? Canys o hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd, Amen," Rhuf. xi. 35, 36. A thrachefn y mae yn gofyn,

Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ag arall, a pha beth sydd genyt a'r nas derbyniaist, ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu megys pe bait heb dderbyn,' I Cor. iv. 7. Os y meddylia neb fod Duw yn ddyledwr iddo am ei fod yn well nag eraill, ac wedi gwneuthur mwy o ddaioni nag eraill, fe ddylai y cyfryw gofio mai gan Dduw y mae wedi derbyn galluoedd i weithredu yr hyn sydd dda; ac mai Duw yn unig sydd yn tueddu ei alluoedd at yr hyn sydd dda, " Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 13. Mae pob da yn wreiddiol oddiwrth Dduw; a pha dda bynag a fyddom ni yn ei gyflwyno i'r Arglwydd—pa un bynag ai ein gweddiau, ein mawl, ynte ein meddianau at ei achos, gallwn ddywedyd yn ngeiriau Dafydd, "Canys oddiwrthyt ti y mae pob peth, ac o'th law dy hun y rhoisom i ti, I Cron. xxix. 14. Nid ydyw y môr yn ddyledus i'r afonydd am eu dyfroedd, ond y maent hwy yn ddyledus i'r môr—nid yw y ffynnon yn ddyledus i'r ffrydiau, ond y mae y ffrydiau yn ddyledus i'r ffynnon; nid yw y gwreiddyn yn ddyledus i'r canghenau am ei nodd,