Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/526

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

niwaid iddo, nac i'n da ni wneud lles iddo. Elihu a ddywed yn Job xxxv. 6, 7, 8, "Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? Os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef? Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? Neu pa beth y mae yn gael ar dy law di? I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all rywbeth."

3. Mae anfeidroldeb Duw yn profi yr athrawiaeth. Peth anfeidrol yw yr hyn na ellir ei wneud yn fwy wrth roddi ato, na'i wneud yn llai wrth gymeryd oddiwrtho. Mae Duw mor fawr fel na all rhoddion neb ei wneuthur yn fwy mewn un ystyr, na'i gyfraniadau yntau i neb ei wneuthur yn llai mewn un ystyr. Mae Duw yn rhy alluog i neb fod yn gynorthwy iddo; yn rhy ddoeth i neb fod yn wr o gynghor iddo; ac yn rhy dda i neb ei wneuthur yn well, Rhuf. xi. 34. Mae Duw mor fawr, fel nas gall un gwasanaeth o'n heiddo ni, ddim bod o gymaint lles iddo ef, ag a fyddai canwyll i'r haul ar haner dydd, neu ddafn o ddwfr i'r cefnfor i nofio y llongau mawrion. Mae yr haul yn rhy fawr i ganwyll fod o les iddo; ac felly mae y môr yn rhy fawr i un dafn o ddwfr fod o les iddo, eto nid ydynt hwy ond meidrol; ond am ein Duw ni, y mae efe yn anfeidrol, yr hwn a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd. â'i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau a'r bryniau mewn clorianau. Wele y cenedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel mân lwch y clorianau; wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny. Yr holl genedloedd ydynt megys diddym ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd y cyfrifwyd hwynt ganddo. Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a'i thrigolion