Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/525

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr yn fynych yn priodoli tragwyddoldeb i Dduw. Mae Abraham yn ei alw yn Dduw tragwyddol, Gen. xxi. 33. Hefyd yn Esa. lvii. 15, y darllenwn am y goruchel a'r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb. Dywed y Salmydd ei fod yn Dduw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb Salm xc. 2. Gan hyny, os yw Duw yn dragwyddol, hawdd a rhesymol yw tynu y casgliad hwn, gan ei fod wedi byw cyhyd yn anfeidrol ddedwydd heb ein gwasanaeth ni, y gall fyw felly eto hebom ni a'n gwaith. Dywediad cyffredin gan ddynion "Mi a fum hyn a hyn o flynyddoedd heb'ot ti, ac mi allaf fyw eto heb'ot ti." Ond fe fu Duw fyw drwy annherfynol dragwyddoldeb hebom ni, gan hyny fe all fyw eto hebom yn yr un modd.

2. Mae anymddibyniaeth Duw ar yr oll o'i greaduriaid, yn profi gwirionedd yr athrawiaeth. Mae ei ddedwyddwch a'i holl ogoniant ef yn gwbl ynddo ac o hono ei hun, yn annerbyniedig oddi wrth neb arall. Gall Duw fyw a bod hebom ni, ond nis gallwn ni na byw na bod hebddo ef. Gall ef fod yn ddedwydd byth hebom ni, ond ni allwn ni fod yn ddedwydd am un foment hebddo ef. Gall Duw fod yn ddedwydd heb ein gwasanaeth ni, ond ni allwn ni fod yn ddedwydd heb ei wasanaethu ef. Gall Duw fyned a'i achos yn mlaen trwy y byd hebom ni, ond fe gollwn ni ein braint os na chawn ni fod gydag achos Duw yn y byd. Mae yn haws i Dduw fyw a bod yn ddedwydd hebom ni a'n gwasanaeth, nag a fyddai i'r haul barhau yn ei oleuni a'i wres heb un o'r blodeu, nac un o laswellt y meusydd. Nid yw Duw yn cael mwy o les oddiwrth ein gwasanaeth ni, nag y mae yr haul yn ei gael o les oddiwrth y llygaid y mae yn eu goleuo; oblegid y Duw yn anfeidrol uwchlaw i'n drwg ni wneud