Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/524

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

helaeth yn oesoedd cyntaf Cristionogaeth, efe a ymnewidiodd drachefn i ddull pabaidd, yr hwn ddull y milwriodd yr hen ddiwygwyr yn unol yn ei erbyn; ond ei dull mwyaf cyffredin yn ein dyddiau ni o ymwisgo ydyw y deddfol a'r efengylaidd. Wrth y dull deddfol yr wyf yn meddwl, dull y rhai hyny sydd yn ceisio byw bywyd dichlynaidd; ac i ateb i lythyren y ddeddf foesol, y mae rhai yn meddwl yn ddirgel eu bod wedi gwneuthur cymaint o les i Dduw ag y dylai roddi y nefoedd iddynt; er y soniant am drugaredd, ac am Iesu Grist o ran arfer. Wrth y dull efengylaidd yr wyf yn meddwl yr un peth, dull y rhai hyny sydd yn meddwl eu bod yn gwneud Duw yn ddyledwr i roddi ychwaneg o ras iddynt am yr hyn y maent yn ei alw yn ymgais diragrith. Yr hyn sydd yn esmwythau cydwybodau eraill yw eu bod wedi rhoddi eu hunain yn aelodau eglwysig mewn rhyw fan, ac nid gwaed Crist; eithr y maent yn gwneuthur hunan—gyfiawnder o'u proffes. Mae y lleill yn ymorphwys ar eu grasau, neu yr hyn y maent yn feddwl eu bod yn rasau, am gymeradwyaeth gyda Duw, yn fwy nag ar aberth Crist. Yr hyn sydd yn rhoddi yr hyder cryfaf ynddynt i fyned o flaen Duw, a'r hyn y maent yn cael y cysur mwyaf oddiwrtho, yw meddwl eu bod yn dduwiol, ac nid gwaed Crist, ac felly yn gwneuthur hunan-gyfiawnder o'u grasau, trwy eu gosod i wasanaethu yn lle ei aberth ef. Felly iaith hunan-gyfiawnder yn mhob dull, yw bod dyn o elw i Dduw, a Duw yn ddyledwr i ddyn.

II. YMDRECHAF BROFI GWIRIONEDD YR ATHRAW—IAETH, SEF NA ALL DYN FOD O ELW I DDUW, NA DUW YN DDYLEDWR I DDYN.

1. Mae fod Duw yn Dduw tragwyddol yn profi gwirionedd yr athrawiaeth hon. Mae yr Ysgryth-