3. Y mae rhai yn medddwl eu bod yn gwneuthur Duw yn ddyledwr iddynt drwy eu helusenau, a'u cyfraniadau o'u meddianau at achosion crefyddol. Maent yn oferdybio y dylai Duw dalu iddynt naill ai yn y byd hwn, neu yn yr hwn a ddaw; a phrin y meddyliant y byddai Duw yn gyfiawn pe y byddai iddo eu hamddifadu o'u meddianau wedi iddynt roddi cymaint at achosion crefyddol, eithr yn gyffelyb i'r Pharisead hwnw a aeth i fyny i'r deml i weddio, Luc xviii. 12. Yr oedd yn golygu fod cyflwyno y ddegfed ran o'i holl eiddo at ddybenion crefyddol yn nghyda phethau eraill ag oedd efe wedi eu gwneuthur, yn haeddu pethau mawrion oddi ar law Duw, ac yn ddadl gref mewn gweddi. Yn gyffredin fe glywir y rhagrithiwr yn udganu yn uchel pan y byddo yn cyfranu at achosion crefyddol, Mat. vi. 2. Y mae am i Dduw a dynion sylwi ar yr hyn y mae yn ei wneuthur.
4. Mae eraill yn tybied eu bod yn gwneuthur Duw yn ddyledwr i'w hunan-gyfiawnderau. Wrth hunan-gyfiawnder y byddaf yn deall pa beth bynag a fyddo dyn yn ei gymeryd i esmwythau ei gydwybod pan y byddo yn ei gyhuddo am ei bechod, ac yn ei gymeryd yn sail i ddysgwyl cymeradwyaeth gyda Duw er ei fwyn, neu yn radd o gymhorth i'w gymeradwyo o flaen Duw, heblaw yr hyn a wnaeth ac a ddyoddefodd yr Arglwydd Iesu Grist.
Mae hunan—gyfiawnder yn newid ei ddull yn ol gwahanol amserau ac amgylchiadau dynion, eto yn parhau yr un o ran ei natur. Yn nyddiau Crist a'i apostolion, ei ddull yn fwyaf cyffredin oedd cadw at y gyfraith seremoniol a thraddodiadau y tadau. Yn erbyn y dull hwn o hunan-gyfiawnder yr oedd Paul yn fynych yn milwrio yn ei ysgrifeniadau. Wedi iddo gael ei orchfygu gan yr efengyl i raddau lled