Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/541

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae genym galondid i'w cynghori a gweddio drostynt, tra fyddont o fewn terfynau gobaith; ac oni bai eu bod felly buasem wedi rhoddi y gwaith i fyny gan wybod nad yw ond llafur ofer. Byddwn ffyddlawn, a dysgwyliwn wrth yr Arglwydd am fendith.

PREGETH VI.

"SANCTEIDDRWYDD YN GYMHWYSDER I DDEFNYDDIOLDEB."

"Pwy bynag gan hyny a'r glanhao ei hun oddiwrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymhwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda," 2 Tim. ii. 21.

SANCTEIDDRWYDD bywyd a chalon yw y prif gymhwysder i fod yn ddefnyddiol.

1. Y mae troedigaeth pechadur yn waith o anrhydedd mawr, ac nid yw yn debyg y gwna Duw osod yr anrhydedd hwnw ar ei elynion. Ni wna neb ddewis gelyn i ddadleu ei achos, neu fradychwr i fod yn llysgenadydd. Ni wna Crist ymddiried parthed ei wyn i neb ond y rhai hyny sydd yn ei garu, Ioan xxi. 15.

2. Heb dduwioldeb personol ni thycia pob cymhwysderau eraill ddim. Y mae fel peiriant heb allu, neu adeilad heb sylfaen dda. Bydd yn sicr o roddi ffordd rywbryd neu gilydd.

3. Y mae defnyddioldeb dyn yn fwy cysylltiedig â gweddi nag â dim arall. Nis gall dyn ansanctaidd fod yn weddiwr, o leiaf, nid yw ei weddi yn gymeradwy. Prawf ffeithiau fod y dynion