Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/542

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

defnyddiolaf yn mhob oes yn ddynion mawr mewn gweddi. Felly y dywed yr Arglwydd, "Nid ä y rhywogaeth hyn allan, ond drwy weddi ac ympryd.". Gallant chwerthin am ben eich dysgeidiaeth, eich ymresymiad cadarn, eich hyawdledd mawr, a'ch ieithoedd ardderchog. Y mae y rhai hyn yn rhagorol yn eu lle, ond ni wnant y tro yn lle gweddi.

4. Heb dduwioldeb personol, ni wna dynion eu dyledswydd fel y dylent. Ni fydd eu calon yn eu gwaith. Gwnant ef rywfodd, ac mor ysgafn ag y byddo modd, dim ond i gadw i fyny eu poblogrwydd, ac i gadw i gydwybod yn dawel. Nis gallant ddysgwyl i Dduw eu gwobrwyo am waith mor arwynebol.

5. Sancteiddrwydd yn ein personau ein hunain yw y ris gyntaf tuag at ei wasgaru yn mhlith eraill. Y rheol fawr ydyw, "Bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun;". . ." y meddyg, iacha dy hun." Nis gall yr hwn na fedr berswadio ei hun i fod yn sanctaidd lwyddo gydag eraill.

6. Sancteiddrwydd personol ydyw un o'r moddion apwyntiedig i ddychwelyd y byd, 1 Pedr ii. 15; iii. 12.

Dichon pregeth sanctaidd barhau am awr, ond pregeth barhaus yw bywyd sanctaidd, a gall hen wraig dlawd bregethu y cyfryw bregeth cystal a'r dyn mwyaf ei ddoniau, "Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr yr hwn sydd yn y nefoedd. Gall pawb ddeall y fath bregeth a hon yna, ac nis gall gael neb i'w gwrthddywedyd.

7. Y mae sancteiddrwydd er mwyn bod yn wrol a diysgog yn nghyflawniad ein dyledswydd yn angenrheidiol, "Y cyfiawn sydd hyf megys llew,"