Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/543

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oblegid y mae ganddo gydwybod dda. Gwna cydwybod euog lwfriaid o honom oll—"Mi a ofnais," meddai un, "ac aethum, ac a guddiais dy dalent." Pa fodd y ceryddwn eraill am y pethau yr ydym ein hunain yn euog o honynt? Dywedodd Dafydd, "Cerydded y cyfiawn fi yn garedig, fel pe na fedrai oddef hyny gan neb arall. Y rhai ysbrydol sydd i adgyweirio y dyn a oddiweddwyd ar fai.

8. Os na allwn fod o wasanaeth i eraill heb sancteiddrwydd, yn sicr, nis gallwn fod o unrhyw leshad i ni ein hunain. Byddwn fel dyn, yr hwn, o herwydd esgeuluso ei orchwyl, a aeth yn fethdalwr. Trwy hyn clwyfai ei gyfeillion a'i berthynasau. Teifl ei hun bendramynwgl i dlodi a thrueni. Nid oes ganddo oleuni ei hunan, ac ni rydd oleuni i eraill. Nid yw yn halen iddo ei hun nac i eraill. [1]

[Wele restr ychwanegol o destynau a phenranau nifer o bregethau Mr. Williams, y rhai a ysgrifen—wyd wrth ei wrando, gan y Parch. William Roberts, Penybontfawr. Er nad oes yma ond y testynau a'r penranau wedi eu copio, eto yr ydym yn sicr y bydd yn dda gan y darllenydd eu cael fel y maent, ac yr ydym yn ddiolchgar iawn am danynt.]

PREGETH VII.

"PARHAD MEWN GRAS."

"Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig," Mat. xxiv. 13.

Y PWNC y sylwn arno yw, Parhad mewn gras,

  1. Cyfieithiad yw yr uchod o gopi a gymerwyd o lawysgrif Mr. Williams yn y flwyddyn 1852 gan Lloffwr. Gwel y Diwygiwr am Awst, 1889, tudalen 277—278