Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/560

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

7. Trwy fyfyrio y defnyddir ein bywyd oreu.

8. Dyma y paratoad goreu erbyn marw.

III. CYFARWYDDIADAU I FYFYRIO.

1. Yn y boreu, agor ddrws myfyrdod â gweddi, a chau ef yr un modd.

2. Dod bethau da i'r meddwl i'w wneud.

3. Cadw wyliadwriaeth arno trwy'r dydd.

Casgliad:1. Diffyg myfyrio yw y rheswm fod y byd mor dywyll.

2. Mae genym achos cywilyddio na byddem yn myfyrio mwy ar bethau da.

PREGETH XXI

.

CYFIAWNHAD TRWY FFYDD

.

"Beth gan hyny a ddywedwn ni? Bod y Cenedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd. Ac Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder. Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megys trwy weithredoedd y ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd," Rhuf. ix. 30—32.

I. NATUR Y FRAINT—sef cymeradwyaeth gyda Duw, neu gyfiawnhad. Cyfeiria hyn at lys barn. Edrychwn mewn pa bethau y mae cyfiawnhad mewn llys gwladol a chyfiawnhad trwy ffydd yn anghytuno, ac mewn pa bethau y cytunant.

Y pethau y maent yn anghytuno:—1. Dieuog—rwydd a ryddha mewn llys barn wladol. Yn llys ffydd rhyddheir yr euog.

2. Mewn llys gwladol y mae dynion yn dyfod yn rhydd weithiau mewn anwybodaeth, methir profi eu heuogrwydd. Ond ni ddaw neb yn rhydd felly gyda Duw,