Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/561

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3. Mae yn annichonadwy maddeu a chyfiawnhau mewn llys gwladol. Nid i hyny y gosodir ef i fyny. Mae yn ddichonadwy yn llys yr efengyl.

4. Gwneud prawf yr ydys yn y llys gwladol. Ond a ddamniwyd eisoes ydyw yn llys yr efengyl.

5. Yn gyfatebol i fel y mae y carcharor yn cael ei gyfiawnhau y mae y cyhuddwr yn cael gwarth mewn llys gwladol; nid felly yn llys yr efengyl.

6. Peth annichonadwy yw cyfrif cyfiawnder mewn llys gwladol, neu gyfrif dyn yn rhydd er mwyn arall. Mae hyn yn bosibl yn llys yr efengyl.

Y pethau y maent yn cytuno:—1. Dieuogi a gollwng yn rhydd. 2. Cael ei godi i barch a bri. 3. Gweithred gyhoeddus yn y llys yw y ddwy. 4. Gweithred ddialw yn ol yw y ddwy.

II. PA FODD Y COLLODD ISRAEL Y FRAINT.

1. Trwy ymarfer â'r ordinhadau i ddyben gwahanol ag oedd gan Dduw. Edrych arnynt fel amcan ynddynt eu hunain, ac nid fel moddion i'w cymhwyso i dderbyn Crist.

2. Trwy bwyso ar yr ymarferiad o'r moddion yn lle troi trwyddynt i dderbyn Crist.

3. Trwy fod yn ormod o hunanymwadiad ganddynt ymadael â phob peth er mwyn Crist.

III. PA FODD Y CYRHAEDDODD Y CENEDLOEDD Y FRAINT?

1. Trwy benderfynu taflu eu hunain ar Grist heb ddim.

2. Trwy foddloni cymeryd Crist yn ei bob peth.

3. Trwy foddloni ymadael â phob peth er mwyn Crist.

4. Trwy benderfynu mai dyma y noddfa olaf a dreient am byth.