Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/563

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I. Ni a ddangoswn fod y tywyllwch hwn yn or-uwchnaturiol.

1. Cymerodd le ar y llawn lloer, ac nis gall diffyg naturiol gymeryd lle ond pan fyddo y lleuad yn newid.

2. Nis gallasai y tywyllwch hwn barhau am dair awr pe na buasai yn oruwchnaturiol.

II. Ni a sylwn fod marwolaeth Crist mor bwysig fel ag i effeithio ar y greadigaeth weledig.

1. Ymddangosai yr haul a'r ddaear fel yn cyd-ymdeimlo â'u Creawdwr ar yr amgylchiad hwn. Ymddangosai yr haul, y cawr mawr yna ydoedd bedair mil o flynyddoedd o oed, fel mewn llesmair, ac ymysgydwai y ddaear.

2. Ymddangosai yr haul fel mewn cywilydd o'r weithred, ac ataliodd ei oleuni.

3. Ymddangosai yr haul mewn trallod mawr am ddrygioni dyn. Ymddangosai mewn galar, a rhoddodd ei handkerchief du dros ei wyneb.

4. Ymddangosai yr haul fel am ddangos drwy atal ei oleuni beth a fuasai ystad pechadur pe buasai Duw yn cadw oddiwrtho oleuni ei wynebpryd.

III. Gan i farwolaeth Crist gael y fath effaith ar y greadigaeth ddireswm, beth raid ddarfod iddi gael ar y resymol a'r foesol?

1. Ar drigolion y nefoedd. Ymddangosai angylion mewn dyddordeb mawr yn ngwyneb yr amgylchiad. Felly hefyd y gwaredigion oddiwrth ddynion. Ymddibynai eu tragwyddol ddedwyddwchar ganlyniad ei farwolaeth. Derbyniasid hwynt i'r nefoedd ar drust, a safai yn awr a ydoedd y weithred i gael ei hadnewyddu ai nad ydoedd?

2. Ar drigolion y fagddu, "Yn awr y mae eich awr chwi, a gallu y tywyllwch." Gwyliasant