Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/564

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Grist am ddeng mlynedd ar hugain, a thybient yn awr fod y fuddugoliaeth o'u tu.

3. Ar drigolion y ddaear. "Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.'

4. Ar ddeiliaid marwolaeth. Llawer o feddau a agorwyd, a llawer o'r meirw a gyfodwyd. Ymddangosent mewn cyffro. Gofynai Abraham i Sarah ei wraig yn ogof Machpelah, A ydyw y nos drosodd? mor felus y darfu i ni gysgu. Gad i ni edrych allan o'r ogof hon. Edrychasent allan a thybiasent weled o honynt frenin y dychryniadau wedi ei daro agos yn farw a'i golyn wedi ei dynu ymaith.

Awgrymiadau:—1. Mor fawr y rhaid fod drwg pechod. 2. Mor galed y rhaid fod calonau pechaduriaid. Nid ydynt yn toddi yn ngwyneb marwolaeth Crist. Maent yn galetach na'r creigiau—holltasent hwy.

Nid yw ardderchogrwydd Mr. Williams fel pregethwr i'w weled yn y pregethau blaenorol, oblegid nid oedd ei feddwl a'i law yn gallu dilyn eu gilydd yn rheolaidd wrth ysgrifenu. Ymddyrysai gyda'r gwaith hwnw. Er hyny, galluogir ni drwy ei bregethau ysgrifenedig i weled nodwedd meddwl y pregethwr enwog, yr hwn a fu yn dysgu gwybodaeth i'r bobl am ddeugain mlynedd. Gresyn na buasai rhywun wedi ymgymeryd wrth ei wrando, âg ysgrifenu nifer o'i bregethau mewn llaw fer. Gallesid felly eu cael yn llawn, a buasent yn drysorau gwerthfawrocach na'r aur, canys yr oeddynt yn cynwys yr athroniaeth buraf, ac yn llawn o'r drychfeddyliau godidocaf.