Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/570

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

5. Rhaid fod pechod yn taro yn erbyn dedwydd—wch a bodolaeth y gymdeithas, ac yn erbyn pob aelod o honi yn ol maintioli ei fodolaeth. Ond yn

6. Mae pechod, mewn dwy ystyr yn taro mwy yn erbyn Duw nag yn erbyn neb arall, am ei fod ef yn anfeidrol fwy na phawb yn nghlorian bodol—aeth, a'i fod hefyd o ran swydd yn llywydd y gymdeithas. Fel pen llywydd bodolaeth y mae bob amser yn gweithredu yn enw a thros yr holl gymdeithas; ac y mae o bwys mawr i ni ystyried mai nid sarhad dirgelaidd (private injury) yn erbyn Duw yw pechod, ond ei fod sarhad cyhoeddus yn taro yn erbyn bodolaeth yn gyffredinol.

7. Fel Penllywydd bodolaeth y mae Duw yn cospi troseddwyr anedifeiriol, ac yn amddiffyn a gwobrwyo yr ufudd edifeiriol, yn yr un ystyr ag y mae Barnwr gwladol yn gweithredu yn enw y wladwriaeth; ac nid yn ei gymeriad dirgelaidd fel person unigol.

8. Fod yn hanfodol er dedwyddwch y gymdeithas i'r rhan leiaf wasanaethu y rhan fwyaf. Byddai aberthu dedwyddwch y rhan fwyaf er mwyn y rhan leiaf yn ddinystyr ar bob dedwyddwch, ac yn groes i bob trefn. Yr ydym oll yn deall hyn yn ei berthynas a phethau naturiol. Pe byddai i wladwriaeth aberthu ei rhyddid er boddio mympwy un gormeswr troseddai reolau dedwyddwch. Yn awr, Duw yw y rhan fwyaf a'r rhan oreu o fodolaeth, a rhaid iddo ofalu yn benaf am ei ogoniant ei hun, a