Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/571

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byddai peidio gweuthur hyn yn drosedd ar reolau dedwyddwch bodolaeth. Y mae pob un a amcano yn gywir i ogoneddu y Pen—llywydd mawr yn sicr o fod yn ddedwydd; ond y mae bod dyn yn gwneuthur ei ddedwyddwch ei hun yn ddyben penaf ei amcanion, yn wrthryfel yn erbyn bodolaeth yn gyffredinol. Crybwyllaf yn awr rai addysgiad—au oddiwrth yr uchod. Gwelwn


1. Rhagoroldeb y llywodraeth foesol. Nid yw yn rhwymo y creadur i wneuthur dim ond yr hyn sy'n tueddu i'w les ei hun, a dedwyddwch yr holl gymdeithas; ac nid yw yn gwahardd dim ond yr hyn sydd yn tueddu at ei anghysur ef, ac annedwyddwch bodolaeth yn gyffredinol. Gwelwn yn

2. Fawr ddrwg pechod. Y mae yn milwrio yn erbyn gwynfydedigrwydd personol dyn, ac ar yr un pryd yn erbyn bodolaeth yn gyffredinol. Bod yn gyfaill i bechod yw bod yn elyn i'r holl fydysawd.

3. Gwelwn y rheswm paham na allasai Duw faddeu pechod heb lawn, fel y mae yn ein cymhell ni i'w wneuthur; o herwydd yn ol y chweched sylw y mae pechod yn taro yn erbyn Duw, nid fel person unigol, ond fel Llywydd bodolaeth ac amddiffynydd rheolau dedwyddwch y bydysawd. I egluro hyn gellir dweyd, fel y dengys Mathew Henry oddiar Salm li. 4, fod pechod Dafydd yn taro yn erbyn Bathsheba ac Urias, yn erbyn ei gorff a'i enaid ei hun, yn erbyn ei deulu, ei deyrnas,