Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/572

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac eglwys Dduw, ond nid yn erbyn neb fel yn erbyn Duw. Byddai maddeu pechod heb gyfaddas iawn mewn effaith yn ddadymchweliad o reolau dedwyddwch y gymdeithas, ac yn gwneuthur ei herthyglau yn fympwyol anwadal a dirym. Byddai cospi un ddoe am droseddu, a maddeu i arall heddyw am yr un trosedd, yn ddigon i ddinystrio unrhyw lywodraeth. Gallai barnwr gwladol faddeu pechod dirgelaidd yn ei erbyn ei hun yn bersonol, ond yn ei swydd fel gweinyddwr iawnder dros y wladwriaeth nid allai faddeu i ddrwgweithredwr heb ddirymu rheo'au dedwyddwch cymdeithas.

4. Ar ba egwyddorion y mae Duw yn gofyn iawn. Nis gall fod ar egwyddor cyfiawnder masnachol (commutative justice), oblegid yn 1. Nid yw pechod yn ddyled ond mewn ystyr gymhariaethol. Y mae yn fwy o natur gwrthryfel na dyled. Y mae dyledwr yn rhwymedig i'w echwynwyr fel person unigol, ac am hyny gellir maddeu iddo heb iawn. Ond peth yw trosedd yn erbyn cymdeithas yn gyffredinol; gan hyny, ni ellir gwneud iawn am dano ar egwyddorion masnachol, ond ar egwyddorion moesol. 2. Nid yw yr Ysgrythyr mewn un man yn darlunio yr etholedigion fel wedi eu prynu o law y Tad heb ganddo ddim i ddywedyd wrthynt, a'u rhoddi i fyny i Grist fel eiddo wedi talu llawn werth am danynt, ond yn hollol i'r gwrthwyneb—"A rhoddaf y cenedloedd