Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/573

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn etifeddiaeth i ti," Salm. ii. 8, "A thi a'u rhoddaist hwynt i mi," Ioan xvii. 6, 9, II, 12.

"Ac a'n prynaist ni i Dduw," nid oddiwrth Dduw, Dat. v. 9. Yn 3. Y mae yr etholedigion yn cael eu darlunio yn yr un cyflwr ag eraill hyd nes y credont, "Wrth naturiaeth yn blant digofaint megys eraill," Eph. ii. 3, yr hyn nis gall fod ar egwyddorion masnachol, o herwydd y mae y dyledwr mewn gwirionedd yn rhydd y funyd y talwyd ei ddyled, ac nid oes arno eisieu dim ond adnabyddiaeth o'r hyn a wnaed drosto. Y gwahaniaeth i gyd sydd yn ei deimlad ei hun.

Yr un peth yw yn llygad y gyfraith cyn cael adnabyddiaeth ac ar ol hyny. Gobeithiaf nad oes nemawr yn Nghymru a gofleidiant yr egwyddorion Antinomaidd sylfaenedig ar y golygiad masnachol am Iawn Crist. 4. Mae golygiadau masnachol ar Iawn Crist yn dadymchwelyd athrawiaeth maddeuant a chyfiawnhad drwy ras; o herwydd mae gan ddyledwr hawl gyfreithlawn i'w ryddid wedi i'r meichiau dalu ei ddyled; nid oes achos iddo ostwng pen na diolch i'w echwynwr am ei ryddid. Ond y mae hyn yn gwbl groes i rediad yr Ysgrythyr a phrofiad y Cristion, yr hwn sydd yn dyfod at orsedd trugaredd i ofyn maddeuant yn y modd gostyngeiddiaf fel erfynydd heb un hawl ganddo. Y mae y Dr. Priestley a'i frodyr bob amser yn darlunio Iawn Crist mewn ystyr fasnachol, ac yna dangosant fod yn anmhosibl cysoni hyn âg athrawiaeth