rhad ras yn nghyfiawnhad pechadur, gan ofyn mewn dull buddugoliaethus, Pa le yr ymddengys gras a maddeuant yn rhyddhad y dyledwr wedi i'r meichiau dalu drosto yr hatling eithaf? Hawdd y gallont ofyn felly ar egwyddorion masnachol? Ond yr ydym yn hollol ddiarddel y fath egwyddorion; ac y mae yn ddrwg genyf fod neb o amddiffynwyr athrawiaeth yr Iawn yn rhoddi achlysur i neb i'w darlunio felly. Y mae yn amlwg hefyd mai nid yn ol egwyddorion cyfiawnder haeddianol y gwnaethpwyd iawn; oblegid rhoddi i bob un yn ol ei weithredoedd fuasai hyn. Diddadl na chafodd Crist yr hyn a haeddodd oblegid dyoddefodd y cyfiawn dros yr anghyfiawn; ac nid yn ol ei haeddiant chwaith y mae'r credadyn yn derbyn. Rhaid gan hyny, os na wnaethpwyd iawn yn ol egwyddorion masnachol, na haeddianol, ei fod wedi cael ei wneuthur yn ol egwyddorion cyfiawnder llywydd—ol, neu gyfiawnder cyhoeddus. Boddlonir cyfiawnder cyhoeddus os ca y fath iawn ag a wna y llywodraeth yr un mor anrhydeddus a'r gyfraith yr un mor rymus a phe gweinyddid cyfiawnder haeddedig ar y troseddwr. Eithr os bydd yr iawn o'r fath ag a ddygo fwy o anrhydedd i'r llywodraeth na gweinyddiad cyfiawnder haeddedig, y mae ysbryd a dyben gweinyddiad cyfiawnder haeddedig wedi cael eu perffaith ateb, a hyny yn fwy na phe y cosbid y troseddwr; ac ar yr un pryd gall trugaredd a gwirionedd ymgyfarfod yma, a chyf-
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/574
Gwedd