Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/575

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iawnder a heddwch gydymgusanu," Salm lxxxv. 10. Dyma drefn deilwng o anfeidrol ddoethineb. Gellir yn ol egwyddorion cyfiawnder cyhoeddus wneuthur iawn i'r gyfraith o ran yr ysbryd o honi heb gyflawni y llythyren, megys yn yr hanes am y deddfroddwr Seleucus, yr hwn a gydsyniodd i golli un o'i lygaid ei hun, er mwyn arbed un o lygaid ei fab, yr hwn, drwy droseddu y gyfraith, ydoedd yn agored i golli y ddau. Ni allasai hyn fod ar egwyddor cyfiawnder haeddianol, o herwydd ar—bedwyd un llygad ag a ddylasai yn ol haeddiant, gael ei dynu, a rhoddwyd un i'r Llywodraeth, nad allesid, yn ol haeddiant, ei ofyn. Y mae yr un mor amlwg mai nid ar egwyddorion masnachol yr oedd yr ymddygiad yma. Nid prynu a gwerthu ydoedd. Y mae yr enghraifft hon, cyn belled ag y mae yn myned, yn dderbyniad o natur cyfiawnder llywyddol. Ond y mae pob peth dynol yn rhy fyr i ddangos pethau Duw. Ar yr egwyddor hon cafwyd modd i arbed y troseddwr, a chyfiawnder a thrugaredd yn ymgyfarfod ar yr un weithred, a'r gyfraith wedi ei chadarnhau yn fwy na phe tynesid dau lygad y troseddwr; y trosedd yn ymddangos yn ei liw gwaethaf, a'r troseddwr yn cael ei osod dan y rhwymau mwyaf i garu ei lywydd, a'r holl ddeiliaid yn cael y cymhelliadau cryfaf i ufudd—dod. Ar yr un egwyddor y mae'r apostol Paul yn egluro natur a dyben iawn Crist. "Yr hwn a osododd Duw yn lawn trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos