Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/576

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddyoddefgarwch Duw, i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu," Rhuf. iii. 25, 26. Nid amcan yr Iawn oedd i rwymo Duw i achub rhyw nifer o ddynolryw. Byddai meddwl hyn yn annheilwng o Dduw, ffynonell hunangynhyrfiol achubiaeth pechaduriaid, Ioan iii. 16, 17. Amcan lawn anfeidrol y groes oedd agor ffordd i Dduw i beidio a chosbi y gwrthryfelwyr, a'u dyrchafu i uchel fraint meibion Duw, heb agor drws i wrthryfel, a dadymchwelyd ei gyfreithiau, fel ag y byddai cyfiawnder a thrugaredd yn cydlewyrchu yn achubiaeth dynion. Yn lawn gogoneddus Emmanuel mae y llywodraeth wedi ei chadarnhau yn fwy, a drwg pechod wedi ei ddangos yn eglurach, a chymhelliadau i ufudddod cryfach holl ddeiliaid llywodraeth y Goruchaf, na phe y buasai yn cosbi pob pechadur yn ol ei haeddiant personol. Ymddengys i mi mai ar y pegwn yma y mae y ddadl rhwng yr uwch-Galfiniaid a'r is-Galfiniaid yn troi, sef pa un ai ar egwyddorion masnachol ai egwyddorion llywyddol yr oedd Crist yn rhoi Iawn? Os ar egwyddorion masnachol, mae yn rhaid mai yr uchel-Galfiniaid sydd yn eu lle. Yn ol yr egwydd—orion hyny, mae yn rhaid fod neillduolrwydd yn natur yr lawn yn ddigonol i ryw nifer yn unig. Ond o'r tu arall, os ar egwyddorion cyfiawnder