Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/577

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llywyddol yr oedd Iesu Grist yn gwneuthur Iawn, y mae yn rhaid mai yr is-Galfiniaid sydd yn eu lle, ac mai yn y bwriad a'r cymhwysiad y mae'r neillduolrwydd, ac nid yn natur yr Iawn, ond bod yr Iawn ag sydd yn ddigonol ac yn gyfaddas i un, mor ddigonol a chyfaddas i'r holl fyd. Yr un peth ag sydd yn ei wneuthur yn addas ac yn ddigonol i un pechadur, sydd yn ei wneuthur yn addas ac yn ddigonol i bob pechadur, fel y dywed y bardd W. W.—

"Ni was'naethai Iawn oedd lai, Tros un pechadur, tros un bai."

Dysged pawb i fod yn gymedrol yn eu barn, gan chwilio beunydd yr Ysgrythyrau a yw y pethau hyn felly.

DIM OND TRI CHWRT YN Y MIL BLYNYDDOEDD.

Wrth bregethu unwaith ar y mil blynyddoedd, dywedai Mr. Williams, "Rhyw dri chwrt fydd yn y mil blynyddoedd—dim ond tri! Ië, y cyntaf fydd, "Dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ag ef ei hun." Beth a wneir os methir yn hwn? Myn'd i'r ail—Galw dau neu dri o'r eglwys; ac os methir a chytuno yno, myn'd i'r trydydd, sef gerbron yr holl eglwys. Pa gwrt fydd wed'yn i apelio iddo? Ni bydd yr un ond hwn. O ddyddiau dedwydd, addoli y byddant bron o hyd yn y mil bynyddoedd. Byddant yn myn'd yn yroedd gyda'u gilydd i gadw cyfarfodydd gweddiau o'r naill ddinas i'r llall. Byddant yn myned oddiyma i Fangor a Pwllheli,