Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/578

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac felly bydd bywyd mewn addoli yn barhaus. Tarawant wrth ambell hen wr yn malu ceryg ar ochr y ffordd fawr, 'P'le yr ewch,' meddai yr hen wr, 'awn i Fangor i gadw cyfarfod gweddi,' ac ar hyn teifl yr hen wr y morthwyl o'i law a gwaedda, 'Arhoswch, ddo'i gyda chwi'—minau a äf hefyd."

"GAN DDECHREU YN JERUSALEM."

Yn mhentref Bersham, gerllaw i'r fan yr wyf yn byw, y mae tawdd-dŷ haiarn (foundry), lle y toddir ac y llunir cyflegrau. Ar ol eu toddi, gwneir prawf arnynt, yn gyntaf oll drwy roddi un ergyd ynddynt; ac os cariant hono, yna dodant ddwbl ergyd, ac os cariant hono heb ffrwydro, yna cyhoeddir hwynt yn gymhwys i'w dodi ar fwrdd llong rhyfel neu i faes y gwaed. Offeryn newydd ac anmhrofedig oedd yr efengyl. Rhaid oedd ei rhoddi dan brawf, ac yn mha le ar wyneb daear y ceid man cyfaddasach i wneud yr arbrawf cyntaf arni nag yn Jerusalem. Os profid yr efengyl yn offeryn effeithiol er troedigaeth pechaduriaid yn Jerusalem, nis gallai fod unrhyw amheuaeth yn ei chylch byth ar ol hyny. Pedr oedd y gwr ddewiswyd i wneud y prawf ar yr offeryn newydd. Efe a'i llwythodd ac a'i taniodd, ac argyhoeddwyd tair mil yr un dydd. Wedi'r fath arbrawf llwyddianus, aeth pysgotwyr Galilea allan i bob man gan bregethu'r Gair gyda phob hyfder, yn gwbl sicr na cheid yn unman ar y ddaear bechaduriaid caletach na'r rhai a labyddiasant ac a laddasant y prophwydi, ac a gyrhaeddas-