Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/579

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ant eithaf bwynt euogrwydd drwy roddi Etifedd y nef ei hun i farwolaeth. Da y gallai apostol mawr y cenedloedd ddatgan ei barodrwydd i bregethu yr efengyl yn Rhufain hefyd, gan y gwyddai ei bod yn allu Duw er iachawdwriaeth i bob un a gredai. Nid oedd ganddo gywilydd o'r hyn a brofasai ei hunan yn allu mor fynych.

YN OL EICH FFYDD.

"Yn ol eich ffydd bydded i chwi." Yn ol maint a rhifedi y ffenestri mewn ty y bydd mesur y goleu a ddaw iddo. Yn ol maint y llestri a ollyngir i'r ffynon y bydd y dwfr a godir i'r lan.

FFURFIO CYMERIAD.

Mewn pregeth a draddododd yn y Bala, lle y dibynai y dosbarth tlotaf ar wau hosanau gofynai—Pa fodd y ffurfir cymeriad? Yn raddol iawn, onide? Yn gymhwys fel y bydd gwragedd y Bala yma yn gwau hosanau—un pwyth ar unwaith.

CARIAD: NAD YW PRIODOLEDDAU DWYFOL OND
GWAHANOL AGWEDDAU ARNO.

Duw cariad yw. Un darn o ddwfr yw y cefnfor mawr llydan; ond fel y mae yn golchi glanau gwledydd gwahanol y mae yn myned dan wahanol enwau. Nid yw y priodoleddau a'r perffeithderau sydd yn Nuw ond gwhanol agweddau ar yr un egwyddor, a hono yw cariad. Yr un egwyddor ag sydd yn adeiladu ysbytty sydd hefyd yn codi carchar.[1]

  1. Gwel The Homilist, vol. iii., New Series.