Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/580

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XXII.

CYNGHORION A DYWEDIADAU NEILLDUOL.

Y CYNWYSIAD—CYNGHORION O EIDDO MR. WILLIAMS MEWN AMGYLCHIADAU NEILLDUOL, GAN YR HYBARCH R. PARRY (GWALCHMAI)—DYWEDIADAU O'I EIDDO, GAN PARCH. E. DAVIES (DERFEL GADARN)—TRI HANESYN AM DANO, GAN Y PARCH. Z. MATHER, ABERMAW.

CYNGHORION O EIDDO MR. WILLIAMS MEWN AMGYLCHIADAU NEILLDUOL, GAN YR HYBARCH GWALCHMAI.

Y MAE ei sylwadau, ei ymadroddion, a'i ymddygiadau, weithiau, ar amgylchiadau a ymddangosant ar ryw gyfrif yn ddibwys yn gystal mynegai am ei gymeriad â'r hyn a ddangosodd i'r byd mewn achosion cyhoeddus oedd yn tynu sylw pawb. Y mae amryw o'i ddywediadau ar gof a chadw gerbron y byd yn barod; a dichon fod llawer o addysgiadau pellach a ellir eu casglu oddiwrthynt megys, ei sylw ar

Y TRI CYTHRAUL.

Sef cythraul y canu, cythraul gosod eisteddleoedd, a chythraul dewis swyddogion eglwysig, y rhai nad yw ympryd a gweddi yn ddigon nerthol i'w bwrw allan. Bu raid i Mr. Williams ddyoddef hyd