Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/582

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hunanol y tro hwn, gallwn weled mor ragolygus ydoedd mewn amgylchiad arall, ac yn ei fedr i ddwyn byrbwylldra dynion da i'w le, pan yn

GWEDDIO DROS SIAC WRTH EI DDIARDDEL.

Yr oedd dyn yn ei eglwys unwaith fel aelod, ac yr oedd yr holl swyddogion yn unol am ei ddiarddel, pan yr oedd Mr. Williams yn barnu y buasai rhoddi cerydd llym iddo yn ateb holl ddybenion dysgyblaeth. Nid oedd y dyn yn un o feddwl cyflym, gwyddai pawb fod graddau o wendid yn perthyn iddo. Pa fodd bynag, yr oedd ef rywfodd wedi ymwthio yn lled ddwfn i serchiadau Mr. Williams. Yr oedd ei ffyddlondeb yn ol ei allu yn ddiarhebol; yr oedd ei holl hyfrydwch mewn gweini ar Mr. Williams, a gofalai am nol a danfon ei farch gyda dyfalwch mawr. Ond daeth dydd ei brawf o amgylch yn fuan, ac yr oedd yr holl frawdoliaeth yn benderfynol am ei ddiarddel. Ni wrthwynebodd efe ddim y penderfyniad, ond dywedodd, "Feallai y byddai yn well i ni fyned i weddi drosto cyn iddo fyned allan. "Ie, ïe," ebai pawb, ac felly fu, a gweddi ryfedd ydoedd, yn rhedeg yn y dull canlynol:—"Wel, Arglwydd mawr, dyma ni yn myned i ddiarddel Siac; yr ydym yn credu fod gan Siac, druan, enaid i'w gadw neu ei golli byth; gwelsom ef a'i ddagrau ar ei ruddiau yn troi ei wyneb am dŷ yr ymgeledd; gwelsom ef mewn galar edifeiriol, yn nesâu'n grynedig at