Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/583

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwrdd y cymundeb, buom yn estyn deheu-ddwylaw cymdeithas iddo mewn teimlad gobeithiol am dano, ond dyma ni heno yn myned i'w daflu allan o'r cysegr i'r ffordd fawr. Cangen heb ddwyn ffrwyth a dorir ymaith, ac a deflir yn tân. Llawer cangen a daflwyd allan ar y llwybr cyhoeddus nos Sabbath, ac fe ddeuai rhyw hen wraig foreu dydd Llun, ac a'i codai, ac a'i taflai yn tân. Arglwydd mawr, paid a gadael i ryw gythraul ddyfod heibio a chodi Siac, druan, a'i daflu yn tân, wedi i ni ei fwrw allan," &c. Erbyn hyn, yr oedd yr holl gynulleidfa yn foddfa o ddagrau, ac yn nghanol ocheneidiau a galar, anghofiwyd y cyfan, ac ni soniwyd am ddiarddel Siac. Dyma eglurhad neillduol o ddylanwad ei ysbryd cariadlawn, a'i ddoethineb i arwain cymdeithas i'r iawn.

Yr oedd ei ofal yn arbenig am adael rhyw argraffiadau teilwng ar ei ol, pa le bynag yr elai, fel y gwelir oddiwrth yr hanesyn am

Y FORWYN A'R PREN AFALAU.

Adroddir yr hanesyn canlynol am ei ymweliad â chyfeillion o amaethwyr yn Sir Ddinbych. Ar adeg neillduol y boreu, wedi y noswaith y lletyai yno, gofynai i'r forwyn, "Wel, Mary, a fyddwch chwi yn meddwl rhywbeth am grefydd, am eich enaid, am y Gwaredwr, yn y dyddiau hyn?" "Na fyddaf yn wir, Syr, yn awr," oedd yr atebiad. Gofynai eilwaith, "A fuoch chwi erioed yn meddwl