Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/584

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dim am bethau felly?" "O! do, yn wir Syr, lawer gwaith, ond y mae pob peth felly wedi eu colli yn llwyr erbyn hyn." Yr oedd ffenestr wynebol y ty yn lled agored. "Wel, Mary, meddai ef, "A welwch chwi y pren afalau yna sydd allan ger eich bron yn ei flodeu tlysion a gobeithiol." "Gwelaf," ebai hithau. "Wel, pe yr elech chwi yna, ac ysgwyd y pren nes y cwympai y dail, ni ddeuai yna ddim ffrwyth; yr wyf yn ofni mai ysgwyd y teimladau ymaith a wnaethoch chwithau. Os byth y teimlwch y fath argraffiadau eto, gochelwch rhag eu hysgwyd ymaith, ond magwch a meithrinwch hwy." Yna yr oedd yr ymwelydd yn myned ymaith i'w ffordd. Yn fuan wedi hyny, sylwai ei meistres ar yr eneth yn sychu ei dagrau yn ddystaw, a gofynai iddi, "Beth sydd arnoch chwi, Mary, ai nid ydych yn gwbl iach?" "O! ydwyf fi yn gwbl iach, meistres." "Wel, y mae rhyw ddwysder neillduol arnoch ynte. Dywedwch ar unwaith beth yw y mater?" "Wel, a dweyd y gwir i chwi, meistres, gair a ddywedodd Mr. Williams wrthyf cyn ymadael y boreu heddyw sydd wedi glynu ar fy meddwl, drwy fy nghynghori i ofalu rhag lladd unrhyw deimlad crefyddol a allai ddyfod ar fy meddwl, a minau wedi lladd miloedd o honynt." "Wel, Mary fach," meddai y feistres, "penderfynwch ar unwaith, yn gwbl oll, yn achos eich enaid a'ch Gwaredwr." Ac felly fu, rhoddodd yr eneth brawf o wir ddychweliad mewn bywyd