Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/585

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hollol gyflwynedig i anrhydedd crefydd Iesu Grist, a'i chysur tymhorol ei hunan dros ei hoes.

Amgylchiad tra hynod yn ei fywyd oedd y pryd yr amlygodd ei syniadau a'i deimladau wrth nifer o'i

FRODYR YN Y WEINIDOGAETH UNWAITH YN NHREF DINBYCH.

Yr oedd hyn amser adagoriad y Capel Cynulleidfaol yno. Nid oedd efe yn ddigon iach ar y pryd i ddyfod i'r addoliad er nad oedd wedi myned i afael nychdod mawr. Yr oedd yn lletya yn nhy boneddiges garedig yno, ac yr oedd mewn ystafell eang a chynes. Yr oedd wedi amlygu dymuniad am gael gweled yr holl weinidogion yno cyn ymadael o honynt o'r dref; a phenodwyd ar awr neillduol boreu dranoeth ar ol y cyfarfod; a chynullodd y brodyr oll yn brydlawn, yn ol ei ddymuniad. Eisteddai wrth y tân, â gwrthban am ei war. Er ei fod yn ymddangos yn hynod o siriol, eto gallesid yn hawdd ganfod arwyddion fod afiechyd wedi gafael yn ei natur. Yr oedd cyhyrau ei wyneb wedi ymollwng i raddau; safai ei drwyn, yr hwn a ymddangosai yn rhy Rufeinig, yn rhy amlwg rhwng ei ruddiau; yr oedd ei wefusau fel pe buasent yn lled grynu weithiau, ac yr oedd ei wedd ar y cyfan yn lled welw; ond yr oedd ei lygaid yn fflam, a'i lais yn glir, a'i yni yn lled hoyw, er pob peth. Yr oedd yn hawdd deall fod