Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/586

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei enaid yn orlawn o feddyliau, ac fel pe buasai yn llawenhau wrth feddwl am gael cyfle i gyfeillachu a'i frodyr, cyn iddynt ymadael bawb i'w daith. Wedi i bawb gymeryd eu lle yn rhes o'i amgylch, dechreuodd fynegu mor dda oedd ganddo eu gweled; ac os byddai ganddo unrhyw gynghor caredig a allai roddi iddynt, y byddai yn barod i'w roddi, yn gystal a gwrando arnynt hwythau yn eu tro yn adrodd eu golygiadau. Dechreuodd trwy awgrymu fel y dylasai fod teimladau y frawdoliaeth oll yn cysgodi fel tarian, y naill dros y llall, fel y dywedai yr apostol, "y gofal sydd arnaf dros yr holl eglwysi." Y mae cynal teimladau da, yn ofn Duw, yn werthfawr mewn cymdeithas fel hon. Yr oeddwn yn meddwl y cymerwn fy rhyddid i gyfeirio gair at amgylchiad neu ddau. Yr oedd dadleu lled chwerw yn nghylch dirwest yn y wasg ar y pryd. "Dyna y symudiad newydd am sobrwydd sydd yn y wlad yn awr," meddai ef, "ni ddywedais i air erioed yn erbyn dadl deg ar y pwnc, gan nad pa mor benderfynol y byddai pob ochr; ond byddai yn dda iawn genyf pe gellid dangos mwy o foneddigeiddrwydd ar bob llaw, a gochel pob ymosodiad personol, yr hyn nad yw yn ateb nemawr ddyben heblaw chwerwi teimladau mewn cymdeithas, a magu cynhenau mewn gwlad." Ni enwodd neb wrth wneud ei nodiadau, ond gwyddid yn lled dda at ba bwynt yr oedd cyfeiriad y saethau. Yr oedd