Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/587

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn awyddus i gyfeirio gair at amgylchiad arall hefyd. Yr oedd un o'r gweinidogion wedi trechu holl helwyr cedyrn y wlad fel saethydd gyda y dryll ar y maes. Ni allai ef oddef cysylltu y fath enwogrwydd mewn un modd âg urddas y weinidogaeth. Bu yn ddigon gochelgar rhag cyfeirio at enw neb, ond datganodd yn groew pa mor ddedwydd y teimlasai, ond i'r awgrymiadau hyn gael derbyniad caredig. Tystiai yn ddifrifol nad oedd ganddo un amcan wrth wneud y sylwadau mewn golwg, ond anrhydedd y frawdoliaeth a lles yr achos. "Yr wyf wedi bod fel arweinydd gyda chwi lawer gwaith," meddai yn wylaidd, "Ac y mae gan y cadfridogion, fel y gwyddoch, eu cynrychiolwyr ar y maes yn gwylio ysgogiadau y byddinoedd, ac yn cludo pob hanes iddynt. Felly yr wyf finau wedi bod er dechreu y cyfarfod yma; yr wyf wedi cael pob boddlonrwydd am eich cenadwri, ac yn dawel hollol i adael yr achos mawr yn eich dwylaw. Pe buasai genyf ddifrifoldeb yr apostol, buaswn yn dueddol i roddi cynghor caredig i chwi, yn enwedig pan y dywedai, "Yr ydwyf fi, gan hyny, yn eich gorchymyn ger bron Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig angylion, yr hwn a farna y byw a'r meirw yn ei ymddangosiad o'i deyrnas, ar i chwi gyflawni eich gweinidogaeth modd y byddoch yn lân oddiwrth waed pawb oll, pregethwch y gair, byddwch daer mewn amser ac allan o amser, argyhoeddwch, ceryddwch, anogwch gyda phob