Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/588

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hirymaros ac athrawiaeth." Dechreuai edrych yn llym iawn, a thremiai ar a thrwy y brodyr oll; yr oeddynt fel pe buasent yn ei ofni, ac yn ei garu ar yr un pryd. "Na chymerwch yn angharedig ynof," meddai, "am wneud fy hun yn lled rydd gyda chwi am dro fel hyn. Yr oeddwn yn meddwl am gyfarfod tebyg i hwn, yn enwedig mewn tref boblog a chyhoeddus fel hon, lle mae lluaws yn dyfod i wrando arnom, na ddeuant ond ar amgylchiad fel hyn. Bob tro y deloch ar y fath achlysur gofalwch am ddyfod yn eich dillad Sabbathol, y pregethau goreu, a'r cyfansoddiad mwyaf trwyadl, a'r testynau mwyaf detholedig a chymhwys y rhai a fyddo oreu ar eich cof, eich tafod, a'ch ysbryd. Y mae nifer mawr yn dyfod i wrando arnoch o gywreingarwch, ac yn ffurfio eu barn am yr enwad wrth eich gwrando. Ni fynwn i chwi fod yn ol i neb am eich prydferthwch allanol, mewn iaith na thraddodiad. Pwy a ŵyr pa argraff a ellwch ei wneud ar ddosbarth fel hyn o wrandawyr. Ond o drugaredd, y mae genych lawer yn dyfod i'ch gwrando o barch at grefydd, ac o serch at yr efengyl. Bydded eich holl enaid yn y gwaith. Deuwch i'r cyfarfod wedi ymgyfamodi ar ben deulin a'ch Meistr mawr, i ymdrechu gadael rhyw argraff teilwng ar eich ol; mynwch gymeryd y dref—take the city by storm. Y mae yn ddiau genyf, ond i chwi gael eich dwyn i'r agwedd a'r ysbryd hwn, na adewir mo honoch yn unig, ond y cewch eich