Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/589

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwisgo â nerth o'r uchelder, ac y bydd udgorn bloedd brenin yn eich plith. Yr oedd yr apostol—ion yn rhoddi gliniau i lawr i weddio cyn ymaflyd mewn pob gorchest fawr, ac yr oedd Duw hefyd yn cyd—dystiolaethu trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd a doniau yn Ysbryd Glan, yn ol ei ewyllys ei hun." Teimlai pob un wrth ymadael fel pe buasai wedi bod yn bur agos i Fynydd y Gweddnewidiad, ac nid yn fuan y dileir yr argraffiadau oddiar feddwl yr ychydig weddill sydd wedi eu gadael yn fyw hyd heddyw oedd yno.

DYWEDIADAU O EIDDO MR. WILLIAMS, GAN Y PARCH.
E. DAVIES (DERFEL GADARN.)

Gallesid meddwl wrth wrando ar Mr. Williams yn traethu, na byddai wedi astudio un llwybr i fyned yn mlaen, ond ei fod yn ymddibynu yn gwbl ar yr hwyl a gaffai ar y pryd; ond wrth ei ddilyn yr oedd yn eglur ei fod wedi rhagdrefnu ei fater gyda'r medrusrwydd a'r gofal mwyaf. Y mae yn gofus genyf am dano unwaith yn cadw cyfarfod yn Mhwllheli yn nglŷn â chymdeithas y Beiblau. Rhyw ddydd hynod oedd y dydd hwnw; yr oedd pedwar o brif bregethwyr Cymru wedi eu gwahodd i'r cyfarfod. Yr oedd Mr. Williams i areithio yn nghapel Penlan, a chan fod yno ormod o bobl i'r capel allu eu cynwys, aeth ef a safodd yn y ffenestr, ac yr oedd yn edrych o'i gwmpas mor ddigyffro a