Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/590

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

difeddwl, fel y gallesid tybio na wyddai yn y byd pa beth i'w ddywedyd; ond o'r diwedd, cyn dywedyd dim, edrychodd at ei draed ar waelod y ffenestr, a chanfu yno Destament, ymaflodd ynddo a chododd ef i fyny, a dywedodd, "Byddwn yn arfer edrych tu fewn i'r llyfr hwn am destynau i'n hareithiau, ond y mae yma destun oddiallan i hwn a wna y tro yma heddyw," yna darllenodd y geiriau tuallan—

BRITISH AND FOREIGN BIBLE SOCIETY—
BEIBL GYMDEITHAS FRUTANAIDD A THRAMOR.

Traethodd am fawr werth cymdeithas, ac nad oedd dim braidd yn ormod i gymdeithas allu ei gyflawni. Cymdeithas o fân ronynau yw y ddaear, y goleuni, a'r dwfr. Sylwodd ar ddisgyniad y dwfr yn ronynau mân oddiwrth bigau y brwyn yn y mynyddoedd; a phe y buasai rhywun yn gofyn iddynt, "I ba le yr ydych yn myned? Yr ateb a gawsid eu bod yn myned i nofio llongau. Pa fodd, trwy ymuno a'u gilydd yn gymdeithas; ac erbyn hyn, y maent yn fôr, ac felly yn alluog i nofio llongau. Pe byddai eisiau symud rhyw wrthddrych mawr, a holl wŷr cryfion y wlad yn myned at y gorchwy! bob yn un ar wahan, ni allent byth gyflawni y gwaith; ond gadewch iddynt fyned gyda'u gilydd, cyflawnant y gwaith yn rhwydd. Nid yw y gymdeithas hon yn adnabod plaid na pherson mwy na'u gilydd, ac nid yw yn meddwl