Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/591

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorphwys tra byddo un heb Feibl. Meddyliodd rhyw uchel-Eglwyswyr unwaith nad oedd yn weddus cymeryd dim gan Undodiaid, a rhyw deulu felly at Gymdeithas y Beiblau; ac y mae yn debygol pe cawsent eu pwrpas y buasent yn cau eraill allan bob yn dipyn, ac felly yn dinystrio amcan y Gymdeithas, ond rhoddodd Mr. Rowland Hill derfyn ar hyn mewn byr eiriau drwy ddywedyd yn Exeter Hall, nad oedd waeth ganddo ef gan bwy y caffai Feibl, y cymerai ef Feibl pe buasai y cythraul yn ei gario iddo â gefail dân.

Yr oedd Mr. Williams, a chyfaill enwog iddo unwaith ar daith yn y Deheudir, ac yn cyd-bregethu yn aml, ond byddent weithiau yn gorfod ymwahanu, yn enwedig ar y Sabbathau; ond pa le bynag y byddai Mr. Williams, yno y cyrchai corff y bobl. Gofynodd ei gyfaill iddo unwaith, "Paham y mae hyn yn bod? oblegyd gallwn feddwl fod genyf fi gystal pregethau a chwithau." "Ho," meddai, yntau, "Gallai fod eich pregeth chwi yn well na'r eiddo fi, ac nid hyny yw yr achos. Yr ydych chwi yn myned a'ch gwrandawyr i

YSTAFELL YN LLAWN O DDARLUNIAU PRYDFERTH,

ac yn dangos yr oll iddynt ar unwaith, byddaf finau yn ymaflyd yn handle y drws ac yn dweyd fod genyf ddarlun prydferth iawn oddifewn, ac yn ymdrechu cynyrchu awydd yn y bobl am ei weled, yna byddaf yn agor y drws, ac yn dywedyd, dyma