Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/592

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fo, edrychwch arno; felly byddant yn gweled un genyf fi, a byddant yn gweled llawer genych chwi, ond heb weled dim un mwy na'i gilydd." Dywedai Mr. Williams unwaith, "Yr wyf yn cofio clywed un hen frawd yn cwyno mewn cynadledd, ac yn dywedyd ei fod yn ofni nad ydoedd ef ddim wedi cael ei anfon i bregethu, a hyny oblegid nad oedd ganddo ddim llawer o

DDEFNYDDIAU PREGETHAU

o'i eiddo ei hun, ond rhyw bethau a gaffai wrth ddarllen o eiddo rhywrai eraill. "Wel, frawd," meddai Mr. Williams, "Yr wyf yn cofio am hen wreigan dlawd yn fy hen gymydogaeth, a fyddai yn myned oddiamgylch bob dechreu haf i gasglu ychydig wlan, a byddai yn cael ychydig gan hon a'r llall, ac ambell dusw yn y perthi, a byddai yn rhoddi y cwbl yn yr ysgrepan gyda'u gilydd, yna dygai ef adref, a thriniai ef gan ei gribo a'i nyddu, a myned âg ef i dŷ y gwehydd, ac oddiyno i'r Pandy; a byddai rhywun yn ei wneud yn ddillad iddi; ac edrychai yr hen wreigan mor gryno ac mor glyd, a phe buasai y gwlan wedi tyfu i gyd ar gefn ei defaid ei hun, er na feddai lwdn dafad ar ei helw, felly chwithau, na ofelwch gymaint pa le y caffoch ddefnydd eich pregethau, ac ond i chwi drin y cyfryw ddefnyddiau fel yr hen wraig gyda'r gwlan, bydd y cwbl yn eiddo i chwi eich hunan.

Y WESLEYAID YN LAMP YCHWANEGOL YN Y LOBBY.

Ystyriai Mr. Williams, mai mewn tywyllwch