Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/593

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anwybodaeth, a diffyg cydnabyddiaeth â'n gilydd, y megir rhagfarn bob amser. "Yr oeddwn," meddai, "tua Llanfachreth a Thrawsfynydd acw, yn meddwl pan ddaeth y Wesleyaid gyntaf i'r wlad, eu bod yn ddynion mor ryfedd a phe y buasai cyrn ar eu penau, ac y dylesid ymgadw oddiwrthynt, fel pe buasent yn wahanglwyfus, ond erbyn edrych, nid oedd y cwbl ond dychymyg gwag a disail, ac nid oeddynt hwythau ond lamp ychwanegol yn y lobby. Gwnaethant lawer o les, a phe y codai rhyw enwad newydd o Gristionogion eto byddai hyny yn sicr o gynyrchu daioni. [1]"

Y MAWR YN GALLU BOD YN OSTYNGEDIG.

GAN Y PARCH. Z. MATHER, ABERMAW. Dyma ni mewn dychymyg er's mwy na haner can' mlynedd yn ol, ar hwyr prydnawn dydd hyfryd yn nechren mis Mehefin, yn sefyll o flaen amaethdy henafol o'r enw Dolymynach, yn nghwr dyffryn prydferth yn un o siroedd y Gogledd. Nid ydyw yr adeilad yn wych ei ymddangosiad, ond y mae yn gadarn, fel y prawf ei furiau trwchus o feini mawrion. O'i flaen, o fewn tua phymtheg llath i'w gilydd, mae dwy dderwen gadarn gauad—frig, y rhai ydynt wedi ei gysgodi rhag gwres yr haf ac ystormydd y gauaf am dymhorau lawer. Yma dysgir i blant dynion eu rhwymedigaeth i adeiladu tai, a phlanu coed i'r oesoedd a ddeuant.

  1. Gwel "Y Dydd" am Hydref, 1868.