Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/594

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Onid ydyw adeiladu yn ysgafn ac addurniadol, a phlanu coed ffawydd, yn dangos gwanc anniwall dynion am gael holl fwynderau y byd iddynt eu hunain. Nid ydym yn cael bod yma ond ychydig funydau, cyn i ni glywed llais i ni glywed llais y feistres yn dweyd wrth y forwyn, "Gwna frys i roi bwyd i'r moch, Mari bach, maent yn gwaeddi er's meityn."

"Af 'rwan, meistres," meddai; ac ymaith â hi mewn brys, fel y prawf clinc ei chlocs ar y palmant; ac mewn moment, dyma yr oernadau mochyddawl wedi troi yn rhyntiau boddhaus. Y fath ddylanwad llonyddawl sydd gan ymborth yn nghylla pob creadur... Gyda hyn, clywir trwst y llestri godro, a gwelir y gwartheg o un i un yn dyfod i'r buarth, a Mari y forwyn, Ned yr hogyn, a Dafydd y cowman yn llawen a dedwydd yn myned at y gorchwyl o odro. Clywch chwi Ned yn myned o'i hwyl, gan waeddi, "Bydd llonydd di, Cochen, pwy ddewin al d'odro di?" Ond mae Mari yn ysgafn ei chalon yn canu yn ddedwydd wrth odro Brithen, a hithau, dan gnoi ei chil, yn rhoddi ei llaeth mor dirion a thiriondeb. Mae yn mysg gwartheg, fel yn mysg dynion, rai yn gwasanaethu eu cenedlaeth yn fwy didwrw a rhadlawn o lawer nag eraill. Dyma y gorchwyl hwn eto drosodd y llaeth wedi ei hidlo, a'r gwartheg yn dechreu meddwl am barotoi i dalu eu teyrnged laethawl y boreu dilynol. Yr ydym yn teimlo fod gofalon a thrafferthion amaethdy yn lleng; ond eto, os ceir deupen llinyn