Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/595

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amgylchiadau at eu gilydd i'w hwylus glymu, mae yn sicr o fod ar y cyfan yn fywyd pur ddedwydd, bywyd iach ac agos i drefn natur. Gyda golwg ar ei drafferthion, pa beth geir yn y byd yma o werth heb drafferth? Ac i'r hwn sydd a'i galon yn ei waith, oni ellir dweyd mai yn nhrafferthion ei waith mae yn cael ei fwynhad uwchaf.

Heb ymdroi yn hwy gyda'r anifeiliaid, gadewch i ni fyned i'r ty. Cyn i ni eistedd i lawr, tynir ein sylw gan y dodrefn henafol a chryfion. O flaen y ffenestr mae hen fwrdd braf a chryf, oddiar yr hwn mae gweision a morwynion, am genedlaethau rai, wedi bod yn cyfranogi o iachusfwyd y wlad. Tynwyd ein sylw mewn cwr arall gan hen gwpwrdd press o riddyn derw, ac wedi ei gerfio arno gan law-gelfydd y flwyddyn 1696, yr hwn sydd wedi bod yn dra gwasanaethgar i gadw dillad brethyn cartref teulu am dymhor hir. Ac i'r ystyriol a'r meddylgar, mae yr hen gwpwrdd press yn ei iaith, yn llefaru yn effeithiol, ond rhaid gadael yr hen ddodrefn i ddyfod at y teulu. Mae y teulu presenol yn gynwysedig o hen wr o'r enw Rolant Dafydd, wedi gadael ei bedwar ugain, ei wallt gan wyned a'r eira, a chwareugarwch plentyn ar ei wedd; ei fab Evan, a'i hawddgar a gofalus wraig Martha, a saith o blant, pump o fechgyn, a dwy o enethod, y rhai oll, fel y dengys eu bochau cochion, ydynt gan iached a iechyd, mor chwareus a'r oen, ac mor llawen a'r gog. Mae yr hen wr yn eistedd yn ei