Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/596

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gadair ddwy fraich wrth ochr y tân, a'r Hen Feibl mawr yn agored wrth ei benelin ar y pentan, lle y gosododd ef tra bydd yr hyn ddarllenodd yn myned trwy felin myfyrdod. Tra y myfyriai fel hyn, dyma ei hen gyfaill Lewis Llwyd, yr Hendre, sef y fferm nesaf, yn dyfod i mewn, yr hwn a ddywedai wrth ddyfod yn mlaen, "Nid ydyw o un gwahaniaeth pa bryd y deuaf yma, Rolant Dafydd, yr ydych chwi yn sicr o fod gyda'ch Beibl, mae yn rhaid eich bod yn cael hyfrydwch mawr ynddo." "Ydwyf, Lewis Llwyd anwyl," meddai yntau, "Yr wyf yn cael yr hyfrydwch penaf yn a thrwy hwn; yr oeddwn yn darllen cyn i chwi dd'od i mewn, y geiriau hyny, "Canys ni a wyddom, os ein daearol dŷ o'r babell hon a ddatodir fod i ni adeilad gan Dduw, sef ty nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Canys am hyny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â'n ty sydd o'r nef, os hefyd wedi ein gwisgo, nid yn noethion y'n ceir." "Wel, yn wir," meddai Lewis Llwyd, "Os oes neb yn meddu y sicrwydd bendigedig yna, yr ydych chwi yn ei feddu Rolant Dafydd." "Os nad wyf yn twyllo fy hun yn fawr," meddai yntau, "yr wyf yn meddwl fy mod yn ei feddu er's llawer blwyddyn bellach, ond eto, nis gallaf ddweyd fy mod yn berffaith foddlawn i'r daearol dŷ gael ei dynu i lawr. Fel y gwyddoch, rhoddwyd ar ddeall i ni beth amser yn ol, fod y meistr tir yn rhyw feddwl am chwalu yr hen dŷ