Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/597

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma, a chyfodi un newydd yn ei le, ac nis gallwch ddychmygu mor rhyfedd y teimlais. Rhedodd fy meddwl yn ol at yr amser pan yr oeddym yn chwech o blant ar yr aelwyd yma yn ddedwydd gyda'n gilydd. Meddyliais fod fy nhad a fy nhaid wedi eu geni yma, ac wedi eu hebrwng i'r fynwent yna, a theimlais fod yr hen dŷ mor gysegredig i mi ag oedd y deml i genedl Israel gynt, ac nis gallwn am foment oddef y syniad o'i chwalu, a dywedais, Os oes ty newydd i fod, o na ellid ei adeiladu am yr hen dŷ rywfodd. Ac O, mor ddedwydd y teimlais pan y deallais fod yr hen dŷ i gael ei adael fel y mae am beth amser eto. Wel, rhywbeth yn debyg ydyw fy nheimlad gyda golwg ar y daearol dŷ yma, fel yr apostol, Lewis Llwyd, rhyw ddymuniad am gael fy arwisgo." "Yr wyf yn teimlo yr un modd a chwi yn gymhwys," meddai Lewis Llwyd, "Ac yn wir, yr wyf yn meddwl fod yn anmhosibl i neb hoffi y diosg yma welwch chwi, Rolant Dafydd." "Wel, mae yn rhaid i minau gychwyn tua chartref bellach, er mor felus ydyw yr ymddyddan, oblegid bydd yn bryd swper yn union, a dyma y plant yn dyfod i mewn wedi bod yn chwareu yn ddedwydd druain. Beidiwch chwi a chael pobl ddyeithr, d'wedwch?" "Pa'm, beth sydd yn peri i chwi feddwl Lewis Llwyd?" gofynai Martha Davies. "Gweled yr hen gath ddu yn ymolchi ei goreu yr ydwyf fi," meddai yntau. Gydag iddo gychwyn tua chartref,