Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/598

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyma y plant ieuengaf yn dechreu gwaeddi am eu swper.

"Gan ein bod ni ychydig yn brysur heno,' meddai y wraig wrth y forwyn, "dyro y crochan uwd ar lawr iddyn' nhw gael eu swper i fyn'd i'w gwelyau oddiar y ffordd." A dyna hwy mor brysur o gylch y crochan a nifer o berchyll. Iechyd i'w calonau, dyma y ffordd i gael cyfansoddiadau cryfion, bochau cochion, a meddyliau bywiog. Dyma Mot y ci yn rhoddi cyfarthiad yn sydyn. "Yr wyf yn meddwl," meddai y wraig, "fod yna rywun wrth y drws; 'dos i edrych pwy sydd yna Mari." Wedi i'r forwyn agor y drws, deallodd nad oedd yno neb llai enwog na'r anfarwol Williams o'r Wern, a gwaeddodd, "Mr. Williams y Wern, Meistres." Gyda hyny rhedodd y wraig i'w gyfarfod wedi cyffroi yn ddirfawr, a dywedodd, "O Mr. Williams anwyl, mae yn ddrwg gen i, i chwi ddyfod i le mor annhrefnus, a'r plant yn bwyta uwd o'r crochan fel yma. Ni fyddwn yn gwneud fel hyn bob amser, ond ein bod wedi ei roddi yn y ffordd rwyddaf heno, o herwydd ein bod ychydig yn brysur." Gwelodd y pregethwr mawr ac athrylithgar mewn moment fod ei ddyfodiad annysgwyliadwy wedi llanw y lle â chyffro; mae y forwyn wedi dianc o'r golwg; Ned yr hogyn yn llechu yn nghongl y tân, ac yn edrych gyda chil ei lygad, a'r wraig druan yn methu gwybod pa beth i'w ddywedyd na'i wneud. Yn y cyffro mae y plant yn dal y llwyau i fyny yn eu dwylaw, ac yn syll-