Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/599

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dremu yn ngwyneb y gwr dyeithr. Ond profodd Mr. Williams ei hun i fyny â'r achlysur. Edrychai yn foddhaus ar y plant, a dywedai, "Wel, mae yn dda genyf eu gweled, rhoddwch i mi fenthyg llwy. "Beth wnewch chwi â llwy Mr. Williams?" gofynai y wraig yn synedig. "Rhoddwch chwi fenthyg llwy," meddai yntau drachefn, ac o'r diwedd caniataodd y wraig iddo ei ddymuniad, a chyda hyny dyma ef ar ei liniau yn nghanol y plant yn ddedwydd yn bwyta uwd o'r crochan gyda hwy. Torodd y wraig allan i chwerthin yn galonog gan ollwng ei hun i'r gadair oedd gerllaw. Wedi chwerthin allan ei holl drallod, dywedai, "Wel, yr ydach chwi yn un rhyfedd Mr. Williams." Fel hyn, llwyddodd y gwr enwog hwn, nid yn unig i dawelu y cyffro a achlysurodd, ond troes y cyffro yn ddigrifwch a mwynhad i'r teulu oll, ac yn yr amgylchiad daw mawredd y pregethwr i'r golwg mewn modd amlwg. Pwy na wel ei fawredd yn mhlygiad hwylus ei liniau a'i fwynhad wrth gyfranogi o gynwysiad y crochan gyda'r plant. Yr oedd rhaid cael dyn mawr i wneud hyn, ac nid ydym yn rhyfeddu y byddai y gwr allai fyned ar ei liniau wrth y crochan uwd yn gallu swyno y miloedd oddiar esgynlawr y gymanfa. Dangosodd ei hun yn fawr wrth wneud ei hun yn blentyn. Un o'r profion amlycaf o wir fawredd ydyw gostyngeiddrwydd, ac y mae graddau y naill yn cyfateb i raddau y llall. Mae y dyn balch a hunanol i'r