Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/600

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrthwyneb, yn edrych arno ei hun yn dalach na phawb, oblegid nid ydyw un amser yn dyrchafu ei lygaid. Nid oes angen i mi ddweyd, debygwyf, mai yn ffugyrol yr wyf yn golygu hyn. Ond dylid cofio mai nid am nad ydyw yn gweled ei fawredd mae dyn mawr yn ostyngedig, oblegid mae pob dyn athrylithgar yn ymwybodol o'i fawredd, fel y mae pob cawr yn ymwybodol o'i nerth. Ond y mae dynion mawr yn ostyngedig, fel y dywed un, eu bod yn ymwybodol fod eu mawredd drwyddynt ac nid ynddynt. Pan gyfododd Mr. Williams o fysg y plant oddiwrth y crochan uwd, mae yr henafgwr urddasol a duwiolfrydig yn cyfodi o'i gadair ddwyfraich, ac yn ymaflyd yn ei fraich i'w arwain iddi, ac nid oes ond gadael i'r darllenydd ddychmygu yr ychydig amser dreuliodd Mr. Williams a'r teulu caredig gyda'u gilydd yn ystod ei ymweliad annysgwyliadwy. Yr wyf yn teimlo fod yn yr amgylchiad dyddorol hwn addysg i bob pregethwr ddichon alw yn annysgwyliadwy gyda theuluoedd caredig. Yr wyf wedi rhoddi i lawr y rhan sydd yn son am y crochan uwd mor gywir ag yr wyf yn cofio i mi ei glywed yn cael ei adrodd, a thraethais fy nychymyg am y gweddill i fod yn frame i'r darlun godidog o fawredd yn cael ei ddangos trwy ostyngeiddrwydd.

PREGETH AR Y COF.

Clywais hen wr crefyddol yn dweyd iddo fod yn gwrandaw ar yr anfarwol Williams o'r Wern yn